sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

cymorth a lwfans yng Torfaen

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Torfaen yn rhoi arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu.

Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

Foster Wales Torfaen team

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yma yn Maethu Cymru Torfaen rydym yn gofalu bod plant yn derbyn popeth sydd ei angen arnynt i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yn Nhorfaen y tâl lwfans plant yw £204-£255 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Diben penodol y rhan hon o’r taliad yw prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi, yn ogystal â thalu biliau ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Yn Nhorfaen, ffi’r gofalwr maeth yw £175.81 yr wythnos.

taliadau ychwanegol

Yn Nhorfaen, rydym hefyd yn talu lwfans pen-blwydd, Grant hanfodion ysgol, Lwfans gwyliau crefyddol, costau milltiredd (yn ôl meini prawf penodol) ac rydym yn darparu offer cychwyn.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Social worker and foster carer

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Byddwch hefyd yn derbyn aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFKA) Cymru sy’n cynnig cymorth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a hyfforddiant.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae Maethu Cymru Torfaen yn rhan o’r awdurdod lleol. Mae’n gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu cael gwybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill, a chysylltiadau gweithio agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

2 adults and 2 children outside together

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

Adult with teenage boy in kitchen making food together

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

cerdyn MAX

mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU

Social worker icon

Men Who Care

Grŵp i ofalwyr gwrywaidd sy’n cynnig cymorth gan gyfoedion ac sy’n rhan o’r pecyn cymorth ychwanegol

Allowances icon

rhyddhad gofal cymwys

Dderbyn £10,000 o faethu cyn i chi orfod talu treth. Cael rhyddhad treth ar gyfer pob wythnos rydych yn maethu plentyn

Discussion icon

Fy Nhîm Cymorth (Mhyst)

Arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth (Mhyst)