Y Nadolig yw’r amser i rannu’r pleserau bach syml gyda’r bobl sydd fwyaf pwysig i ni. P’un a ydych chi eisoes yn rhan o deulu maeth, yn ystyried cymryd y cam nesaf neu’n chwilio am ffyrdd o greu atgofion, mae rhywbeth y gall bawb ei fwynhau yn Nhorfaen.
Dyma rai syniadau i’ch ysbrydoli yn ystod tymor y Nadolig ac efallai rhoi cyfle i chi ddychmygu sut beth fyddai maethu i chi, trwy gydol y flwyddyn.
gwyl y gaeaf Pont-y-pŵl

Bob gaeaf, mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn trawsnewid i fod yn fyd o ryfeddodau, stondinau a gweithdai. Mae’n lle gwych i gerdded gyda’ch gilydd, sgwrsio am eich hoff draddodiadau Nadolig a gwylio wynebau bach yn goleuo.
Os ydych chi’n cefnogi plentyn yn eich gofal, gall eiliadau fel y rhain helpu i feithrin ymddiriedaeth a chysylltiad mewn ffyrdd syml, cofiadwy.
Porwch drwy wefan Cyngor Torfaen bob blwyddyn i weld manylion y digwyddiadau.
teithiau arbennig i weld siôn corn ar y rheilffordd dreftadaeth

Dewch, da chi, ar Drên Stêm Siôn Corn i gael blas ar ychydig o hud Nadoligaidd traddodiadol. O gael cyfle i gwrdd â Siôn Corn, i rannu mins pei mewn cerbyd clyd, mae’n ddiwrnod sy’n teimlo’n arbennig iawn – yn enwedig i blant sy’n dathlu’r Nadolig mewn cartref newydd.
Cadwch lygad am y diweddaraf gan Reilffordd Treftadaeth Blaenafon fel y gallwch gynllunio ymlaen llaw.
marchnadoedd a siopa Nadolig

Mae marchnadoedd Nadolig trefi Torfaen yn ymddangos drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Maent yn cynnig popeth, o anrhegion wedi’u gwneud â llaw i ddanteithion tymhorol.
Os ydych chi’n maethu, mae’r marchnadoedd hyn yn berffaith i ddewis anrhegion bach gyda’ch gilydd neu helpu plentyn i ddewis rhywbeth bach hyfryd i aelodau’r teulu a ffrindiau.
Cofiwch ddarllen y rhestrau lleol i weld y dyddiadau a’u lleoliadau bob blwyddyn.
cynnau’r goleuadau Nadolig

Mae achlysur cynnau goleuadau ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân a Blaenafon yn nodi dechrau’r tymor yn swyddogol, gyda cherddoriaeth, bwyd ac weithiau ymweliad gan Siôn Corn ei hun.
I blant sy’n ymgartrefu mewn gofal maeth, gall gweld y goleuadau gyda’ch gilydd fod yn ffordd gysurus o deimlo’n rhan o’r gymuned.
theatr a phantomeim

Mae Pantomeimiau Nadolig yn Theatr y Congress, Cwmbrân yn dod â straeon yn fyw mewn perfformiadau lliwgar, i godi’r galon. Gall taith i’r panto fod yn brofiad bondio gwych, ac un y mae plant o bob oed yn ei gofio ymhell ar ôl i’r llen gwympo.
Nadolig yn pwll mawr: amgueddfa lofaol cymru

Mae Pwll Mawr yn aml yn cynnal sesiynau crefft a llwybrau Nadoligaidd sy’n cyfuno dysgu â difyrrwch. Mae hefyd yn lle gwych i archwilio treftadaeth Cymru ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mwy Ffyrdd i Greu Atgofion

Nid yw bob eiliad Nadoligaidd yn galw am ddigwyddiad mawr. Weithiau, mae’r atgofion sydd â’r ystyr mwyaf yn digwydd gartref:
- Pobi bisgedi neu mins peis gyda’ch gilydd
- Creu cadwyni papur ac addurniadau
- Gwylio ffilm Nadolig, gyda blancedi a siocled poeth
- Mynd am dro a thrafod cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod
Gall y gweithgareddau syml hyn helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, teimlo’n ddiogel a chael eu cynnwys, yn enwedig os ydynt yn dathlu’r Nadolig heb eu rhieni biolegol.
Ystyried Maethu?
Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, mae llawer o bobl yn ystyried maethu. Mae’n amser pan rydyn ni’n meddwl am deimlad o berthyn, cysylltiad, a’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud.
Os hoffech chi wybod fwy am faethu yn Nhorfaen, cysylltwch â Maethu Cymru Torfaen. P’un a ydych chi’n barod i ddechrau, neu’n chwilfrydig, rydyn ni yma i ateb eich cwestiynau.
Clywed y Diweddaraf
Gall manylion y digwyddiadau newid o flwyddyn i flwyddyn, felly cadwch lygad bob amser:
- Gwefan Cyngor Torfaen
- Ymweld â Blaenafon
- Tudalennau cyfryngau cymdeithasol am atyniadau lleol
Ni waeth sut rydych chi’n dathlu, dymunwn dymor llawn cynhesrwydd, chwerthin ac atgofion newydd i chi.