maethu arddegwyr gydag awdurdod lleol Torfaen: sut a pham
maethu arddegwyr – ‘helpu pobl ifanc yn eu harddegau i feithrin eu stori eu hunain’
Mae dros 150 o blant mewn gofal maeth ar draws Torfaen, ac mae bron i hanner y rhain rhwng 13 a 17 oed.
Yn aml, mae’r bobl ifanc hyn yn cael eu lleoli gyda darparwyr preswyl neu asiantaethau maethu annibynnol sy’n gwneud elw, ac yn aml mae hynny’n golygu symud i ffwrdd oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau.
Ond gallwch chi helpu i roi sefydlogrwydd ac arweiniad yn agosach at gartref, trwy ddod yn ofalwr gyda Maethu Cymru Torfaen.
pam cynnig gofal maethu i arddegwyr?
Mae pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal ar gam hollbwysig yn eu bywydau. Pan fydd pobl yn meddwl am faethu, yn aml maen nhw’n meddwl am blant ifancach.
Ond, mae angen cariad, arweiniad a chefnogaeth ar bobl ifanc yn eu harddegau hefyd, i sicrhau eu bod nhw’n cyflawni cerrig milltir pwysig, fel llwyddo yn eu harholiadau a dysgu gyrru.
Fel gofalwr maeth, fe fyddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth eu helpu i ffeindio’u ffordd drwy’r blynyddoedd pwysig hyn, gan osod y sylfeini ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus.
beth gewch chi wrth faethu arddegwyr
Mae gan bobl ifanc yn eu harddegau eu cryfderau a’u rhinweddau unigryw eu hunain. Maen nhw’n gallu bod yn ddoniol, yn greadigol ac yn llawn potensial. Mae gofal maeth i bobl ifanc yn eu harddegau yn sicrhau eu bod nhw, gydag ychydig o anogaeth, yn darganfod eu doniau ac yn meithrin y sgiliau y mae eu hangen arnynt i flodeuo fel oedolion ifanc.
canfyddiadau cyffredin am arddegwyr mewn gofal
Mae llawer o bobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal wedi wynebu caledi a thrallod eithafol, ac eto, wrth eu holi, yr ateb yw mai canfyddiadau negyddol y gymdeithas ehangach sydd wedi eu brifo fwyaf.
pwy sy’n gallu cynnig maethu arddegwyr?
Gall gofalwyr maeth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ddod o unrhyw gefndir.
Beth sydd bwysicaf yw eich gallu chi i gynnig cartref diogel, cefnogol a chariadus. Os oes amynedd gennych, os ydych chi’n gallu deall sut mae pobl yn teimlo ac os ydych chi’n barod i wrando, gallech chi wneud gwahaniaeth aruthrol i fywyd unigolyn ifanc yn ei arddegau.