pam maethu gyda ni?

sut mae maethu cymru yn cefnogi gofalwyr maeth

cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth

Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan dimau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.

Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.

Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.

 

beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth

Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.

Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.

 

 

“Mae Jen, ein gweithiwr cymdeithasol, yn anhygoel. Mae hi bob amser yn onest gyda ni. Mae hi’n cysylltu â ni’n rheolaidd, mae hi hyd yn oed yn danfon neges destun pan nad yw hi yn y gwaith. Daeth hi allan i’n gweld ni bob dydd am yr wythnos gyntaf pan roedd plentyn newydd gyda ni. Mae hi’n gefnogol iawn ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael popeth sydd ei angen arnom. Dim ond pethau da sydd gyda ni i’w dweud am ein gweithiwr cymdeithasol.”

Jess a Chris, gofalwyr maeth, Torfaen

Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…

Mae’r awdurdod lleol yn rhoi cefnogaeth ymarferol enfawr, er enghraifft, grwpiau cefnogaeth rheolaidd, boreau coffi, digwyddiadau teuluol, mentora (arbennig o ddefnyddiol!) a chyfres o gyrsiau hyfforddiant. Mae yna linell ddyletswydd y tu allan i oriau sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos tan 12pm pan fydd y swyddfa ar gau a llinell argyfwng ar ôl 12pm. Mae eich Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth, felly hefyd y tîm ehangach.

Ashleigh, gofalwr maeth, Torfaen
Darllenwch Stori Ashleigh

“Mae Olivia, fy ngweithiwr cymdeithasol, bob amser wedi bod yno i wrando arnaf heb farnu, gan roi lle i mi siarad yn rhydd pryd bynnag y bo angen hynny. Rydw i bob amser yn teimlo ei bod hi bob amser yno ar ben arall y ffôn ac mae hi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn enwedig yn ystod cyfnod anodd. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am ei charedigrwydd a’i hamynedd. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth mae hi wedi’i wneud i mi.”

Caroline, gofalwr maeth, Torfaen

pan fo angen cefnogaeth

sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Ynys Môn i Gasnewydd, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.

Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.

  • O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
  • Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
  • Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.