Mae Maethu Rhiant a Phlentyn yn gyfraniad holl bwysig i helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd. Mae’n rhoi cyfle i rieni fagu hyder a gofalu am eu babi’n ddiogel, gyda’r gefnogaeth iawn.
Yn Nhorfaen, mae gofalwyr maeth fel Sandra yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw bob dydd—gan gynnig arweiniad, sicrwydd a sefydlogrwydd pan fo hynny fwyaf pwysig.
Doedd taith Sandra i fyd maethu ddim wedi dechrau gyda chynllun clir, ond mae wedi arwain at ddegawdau o brofiad ac, yn fwy diweddar, rôl ystyrlon yn helpu rhieni a babanod i aros gyda’i gilydd.
O Fam Sengl i Ofalwr Maeth Profiadol
Ystyriodd Sandra faethu am y tro cyntaf ar adeg pan nad oedd hi’n meddwl y byddai’n gymwys.
Fel mam sengl ifanc yn byw mewn fflat, doedd hi ddim yn credu y byddai hynny’n opsiwn. Ond ar ôl gweld poster yn gofyn a allai unrhyw un faethu, penderfynodd hi gymryd y cam cyntaf.
Dechreuodd gyda maethu byrdymor ac, yn raddol, magodd gyfoeth o brofiad, gan gefnogi plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o anghenion. Ochr yn ochr â maethu, parhaodd i dyfu’n bersonol hefyd – gan ennill tair gradd a gofalu am eraill ar yr un pryd.
Mae ei stori yn atgof pwerus nad oes angen dechrau perffaith ar faethu – dim ond parodrwydd i ddechrau.
Beth yw Maethu Rhiant a Phlentyn?
Mae maethu rhiant a phlentyn yn fath arbenigol o faethu lle mae gofalwr yn cefnogi rhiant – yn aml mam newydd – a’i babi, gyda’i gilydd.
Er bod llawer o drefniadau o’r fath yn golygu gweithio gyda mamau, dydy hyn ddim yn wir bob tro. Gellir cefnogi tadau hefyd, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol.
Y nod yw helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ofalu am eu plentyn yn annibynnol. Mae cyfnodau cymorth fel arfer yn fyrdymor (tua 12 wythnos) ac wedi’u strwythuro, ac mae yna nodau clir a chymorth gan dîm proffesiynol ehangach.
Fel y mae Sandra yn egluro:
“Dydych chi ddim yno i gymryd lle rhiant. Rydych chi yno i’w cefnogi.”
Gall y gefnogaeth honno gynnwys:
- Arwain arferion a gofal bob-dydd
- Adeiladu hyder rhiant
- Cynnig cyngor heb gymryd drosodd
- Gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol
Yn ei hanfod, mae maethu rhiant a phlentyn yn golygu mentora – nid camu i mewn.
Pam Dewisodd Sandra Faethu Rhiant a Phlentyn?
Ar ôl blynyddoedd lawer o faethu, dechreuodd Sandra feddwl o ddifri’ am yr effaith yr oedd hi eisiau ei chael.
Roedd hi wedi cefnogi pobl ifanc a oedd wedi ei chael yn anodd bod yn rhieni yn nes ymlaen – ac roedd hynny wedi aros gyda hi.
“Rwy’n cofio meddwl, allwn i fod wedi helpu ar gam cynharach?”
Cafodd anogaeth gan ei merch, a phenderfynodd ddechrau maethu rhiant a phlentyn. I Sandra, roedd yn gyfle i gefnogi teuluoedd ar gam cynharach a gwneud gwahaniaeth ar ddechrau bywyd plentyn.
“Roeddwn i’n hoffi’r syniad o atal plant rhag dod i mewn i ofal yn y lle cyntaf.”
Sut Mae Maethu Rhiant a Phlentyn yn Edrych o Ddydd i Ddydd?
Does dim dau brofiad yr un peth, ond mae pob diwrnod fel arfer yn cynnwys cyfuniad o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Gallai hyn gynnwys:
- Cefnogi rhiant gyda bwydo, trefn ac apwyntiadau
- Arsylwi a chofnodi cynnydd
- Annog rhyngweithio positif rhwng rhiant a babi
- Rhoi sicrwydd ar adegau anodd
- Gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol i rannu diweddariadau
Ar rai dyddiau mae gofyn i chi fod yn fwy ymarferol. Ar ddyddiau eraill mae’n rhaid camu nôl a rhoi lle i’r rhiant arwain.
Fel y mae Sandra yn ei ddisgrifio:
“Rydych chi’n siarad trwy bethau gyda nhw, ond wedyn rydych chi’n camu nôl. Mae’n golygu adeiladu eu hyder.”
Realiti Maethu Rhiant a Phlentyn
Gall maethu rhiant a phlentyn fod yn brofiad calonogol dros ben – ond mae hefyd yn dod â chyfrifoldeb.
Mae yna adegau pan fydd rhywun yn aros gyda chi pan fydd yn teimlo’n ddwys, yn enwedig ar y dechrau. Rydych chi’n cefnogi rhiant a babi, ac mae pob sefyllfa yn wahanol.
“Mae’n rhaid i chi fod yn hyblyg,” meddai Sandra. “Ac mae’n rhaid i chi fod yn real gyda phobl.”
Yn aml, nid dim ond cefnogaeth gyda sgiliau rhianta ymarferol sydd angen arnynt. Mae magu hyder, rheoli gorbryder, a helpu rhywun i gredu y gallant fod yn rhiant, yn gallu bod yr un mor bwysig.
Gall fod ansicrwydd hefyd. Dydy pob sefyllfa ddim yn dilyn yr un llwybr, ac mae’r canlyniadau yn amrywio.
Yr hyn sy’n eich galluogi i ymdopi yw deall eich rôl:
“Rydych chi’n rhan o dîm. Nid chi yw’r ateb cyfan.”
Manteision dod yn Ofalwr Maeth Rhiant a Phlentyn
I lawer o ofalwyr, mae maethu rhiant a phlentyn yn golygu cefnogi eraill – mae hefyd yn golygu cyflawniad a thwf personol.
Rydych chi’n chwarae rhan uniongyrchol wrth helpu rhiant i fagu hyder a rhoi’r dechrau gorau posibl i’w plentyn mewn bywyd. Gall gwybod eich bod wedi helpu i gadw teulu gyda’i gilydd fod yn bwerus dros ben.
Fel math arbenigol o faethu, mae hefyd yn dod gyda mwy o gymorth ariannol, a hyfforddiant parhaus a’r cyfle i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i fentora, cyfathrebu a gofalu.
Hyfforddiant a Chymorth Arbenigol yn Gwent
Un o’r camargraffiadau mwyaf am faethu yw bod angen i chi wybod popeth cyn i chi ddechrau.
Mae profiad Sandra yn profi fel arall:
“Pan ddechreuais i’n gyntaf, roeddwn i’n meddwl bod gofyn am help yn golygu nad oeddwn i’n ddigon da. Nawr, rwy’n gwybod bod hynny’n rhan o’r gwaith.”
Mae Maethu Cymru Gwent yn rhoi cymorth pwrpasol i ofalwyr maeth rhiant a phlentyn, gan gynnwys gweithiwr cymorth arbenigol ac uwch-weithiwr cymorth. Mae hyn yn sicrhau arweiniad cyson, profiadol trwy gydol pob trefniant maethu.
Mae yna raglen hyfforddi chwe-niwrnod pwrpasol hefyd wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer maethu rhiant a phlentyn, gan helpu gofalwyr i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gefnogi’r rhiant a’r babi.
Does dim disgwyl i chi wneud hyn ar eich pen eich hun.
“Mae’n golygu bod mewn amgylchedd lle rydych chi’n teimlo’n ddigon diogel i ofyn am help.”
Camargraffiadau Cyffredin am Faethu Rhiant a Phlentyn
Mae amheuon yn naturiol, yn enwedig os yw maethu yn teimlo’n newydd.
Efallai eich bod chi’n meddwl:
- “Does gen i ddim y profiad iawn”
- “Mae’n swnio’n rhy ddwys”
- “Fyddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud”
Mewn gwirionedd, does dim angen i chi fod yn berffaith a does dim disgwyl i chi fod â’r atebion i gyd.
Mae hyfforddiant, cymorth a phrofiad i gyd yn adeiladu gydag amser. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut rydych chi’n mynd ati.
“Byddwch yn hyblyg. Peidiwch â bod yn feirniadol. Byddwch yn garedig.”
Yr Eiliadau Hynny sy’n Gwneud Popeth yn Werth Chweil
I Sandra, yn aml yr eiliadau tawel, bob-dydd sydd bwysicaf.
Fel clywed mam yn dechrau siarad a chwerthin gyda’i babi ar ôl cael trafferth meithrin cysylltiad. Neu weld rhiant yn gadael trefniant maethu gyda’r hyder i ofalu am eu plentyn yn annibynnol.
“Mae’r rhain yn bethau mawr,” meddai. “Maen nhw wir yn bethau mawr.”
Mae’r eiliadau hyn yn adlewyrchu gwir effaith maethu rhiant a phlentyn – meithrin hyder, creu sefydlogrwydd, a rhoi cyfle i deuluoedd symud ymlaen gyda’i gilydd.
Allech Chi Gefnogi Rhiant a Babi?
Does dim un math penodol o berson sy’n dod yn ofalwr maeth – ond gall rhai rhinweddau wneud gwahaniaeth go iawn.
“Byddwch yn hyblyg. Peidiwch â bod yn feirniadol. Byddwch yn garedig.”
Mae maethu rhiant a phlentyn yn golygu cefnogi pobl trwy un o’r adegau mwyaf heriol yn eu bywydau. Mae’n gofyn am amynedd, gonestrwydd a’r gallu i annog eraill heb gymryd drosodd.
Dydy hyn ddim yn golygu bod yn berffaith. Mae’n golygu bod yno.
Ydych chi’n Ystyried Maethu yn Nhorfaen?
Mae pob rhiant yn haeddu’r cyfle i lwyddo – a gyda’r gefnogaeth iawn, gall llawer ohonynt wneud hynny.
Os ydych chi’n byw yn Nhorfaen ac eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn ar ddechrau bywyd plentyn, efallai mai maethu rhiant a phlentyn yw’r rôl i chi.
Does dim angen i chi fod â’r atebion i gyd cyn i chi ddechrau arni. Mae’r hyfforddiant a’r gefnogaeth yno i’ch arwain bob cam o’r ffordd.
Cymerwch y cam cyntaf heddiw – mynnwch ragor o wybodaeth neu holwch am ddod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen.
Mae stori Sandra yn dangos bod maethu yn aml yn dechrau gydag ansicrwydd – ond y gall dyfu i fod yn rhywbeth sy’n newid bywyd, i chi a’r teuluoedd rydych chi’n eu cefnogi.