Yma, yn Maethu Cymru Torfaen, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr maeth amrywiol, a chreu cymuned faethu gynhwysol. Rydym yn falch i gefnogi gofalwyr maeth o bob cefndir, ac rydyn ni eisiau i bawb wybod bod maethu yn agored i chi – yn cynnwys unigolion a chyplau LHDTC+. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig o ran Gofal Maeth, yw creu amgylchedd cadarnhaol lle gall plant dyfu, teimlo’n ddiogel, a ffynnu – a hynny gydag angerdd ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.
Yn ddiweddar, fe wnaethom siarad ag Eleanor a Kay, cwpl o’r un rhyw a oedd yn gofidio am faethu i ddechrau oherwydd eu rhywioldeb. Er gwaethaf eu hamheuon, roeddent yn teimlo bod yna groeso a chefnogaeth, ac ers hynny maent wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau llawer o blant.
“Roedden ni wedi meddwl am faethu ers peth amser cyn gwneud yr ymholiad cychwynnol. Doedden ni ddim yn siŵr a fydden ni’n cael maethu am ein bod yn gwpl o’r un rhyw, neu yn wir, sut y byddai eraill yn ymateb – yn enwedig y plant byddai’n dod atom, a’u rhieni. Nid oeddem yn adnabod unrhyw ofalwyr maeth LHDTC+ eraill yn yr ardal leol ond penderfynon ni wneud yr alwad. O’r sgwrs gyntaf oll, lleddfwyd ein pryderon. Roedd Olivia, ein gweithiwr cymdeithasol a gwblhaodd yr asesiad, yn wych ac roeddem y gefnogaeth yno trwy gydol y broses gyfan. Nid oedd yr asesiad mor frawychus ag yr oeddem wedi’i ddisgwyl.”
Cymeradwywyd Eleanor a Kay fel gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Torfaen yn 2024 ac ers hynny maent wedi gofalu am naw o blant.
“Fe wnaethon ni ddechrau trwy gynnig gofal seibiant, a oedd yn ein galluogi i gwrdd â gofalwyr maeth eraill a meithrin cysylltiadau yn y gymuned faethu. Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl i ddechrau ond mae gweld babanod yn tyfu ac yn datblygu tra ein bod yn gofalu amdanynt, yn hynod werthfawr.
Pan gafodd plentyn ei osod gyda ni am y tro cyntaf, roedden ni’n teimlo’n nerfus ynglŷn ag amser teuluol. Roeddem yn poeni y gallai’r berthynas â rhieni biolegol fod yn heriol, ond nid dyna oedd ein profiad ni o gwbl. Nid oeddem yn sylweddoli faint o ryngweithio y byddem ni yn ei wneud â theuluoedd ac mae wedi bod yn hynod gadarnhaol. Rydyn ni wedi meithrin perthnasoedd cryf sydd wedi parhau hyd yn oed ar ôl i gyfnodau maethu ddod i ben, gan gynnwys cefnogi un plentyn i ddychwelyd adref at ei mam – canlyniad cadarnhaol iawn i’r teulu hwnnw.”
“Hyd yn hyn, rydyn ni wedi bod yn ffodus i beidio â dod ar draws heriau sylweddol ac rydyn ni’n parhau i fod wrth ein bodd yn gofalu am blant a’u cefnogi yn ein cartref. Byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i ddarganfod mwy, siarad â phobl sydd eisoes yn maethu a pheidio â gadael i’r ffaith eu bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ i’w rhwystro.”
Os hoffech gael gwybod mwy am faethu gyda Maethu Cymru Torfaen, ewch i’n gwefan: https://torfaen.maethucymru.llyw.cymru/ neu ffoniwch 01495 766669 i gael sgwrs gyfeillgar.