Fe fuon ni’n siarad â dau unigolyn ifanc a dreuliodd eu harddegau mewn gofal maeth ac yn gofyn iddyn nhw rannu eu profiadau. Fe fuon nhw’n rhannu sut deimlad oedd symud rhwng cartrefi, beth wnaeth wahaniaeth a’r gefnogaeth a’u helpodd i ffynnu.
Aeth Chelsea a Ieuan i mewn i ofal maeth fel plant ifainc gyda’u brodyr a chwiorydd ac fe fuon nhw mewn nifer o leoliadau. Mae Chelsea yn cofio’r ansicrwydd wrth symud rhwng cartrefi:
“Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Roeddwn i’n ofnus oherwydd doeddwn i ddim yn ‘nabod y gofalwyr maeth nac unrhyw un yn y tŷ. Roedd cerdded i mewn i gartref newydd yn teimlo’n anghyfforddus.”
Roedd cael plant eraill ar yr aelwyd yn helpu ond roedd teimlo ei bod yn cael ei thrin yn gyfartal yn hanfodol:
“Roedd yn bwysig ein bod ni i gyd yn cael ein trin yr un peth fel fy mod i’n teimlo’n rhan o’r teulu. Os oeddwn i’n teimlo’n wahanol, byddwn i weithiau’n ‘cael pwl’ dim ond am sylw – doedd dim ots os oedd yn dda neu’n ddrwg, cyn belled â’u bod nhw’n sylwi arna’ i.”
Er iddi gael ei lleoli gyda’i brawd neu chwaer i ddechrau, symudodd Chelsea yn ddiweddarach i leoliad ar ei phen ei hun pan roedd hi yn ei harddegau. Er bod hynny’n anodd ar y pryd, mae hi nawr yn ei weld fel cam positif. Roedd ei theulu maeth olaf yn ffynhonnell barhaol o gefnogaeth, hyd yn oed ar ôl iddi ddod yn annibynnol:
“Rwy’n gweld fy ngofalwyr maeth olaf fel fy nheulu. Rwy’n cofio pan aeth Sarah â fi i siopa am fy mhâr cyntaf o jîns Hollister – roedd yr holl brofiad wedi fy ngorlethu gymaint nes i fi roi cwtsh mawr iddi. Gafodd y ddwy ohonon ni sioc ond roedd yn drobwynt. Roedd y cysylltiad yna’n golygu popeth.”
Gan iddi symud dro ar ôl tro roedd Chelsea yn disgwyl y gwaethaf:
“Doeddwn i ddim yn dadbacio oherwydd roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cael fy symud eto. Roedd fy mhethau’n bwysig oherwydd dyna’r unig bethau oedd wir yn perthyn i fi. Bob tro fyddwn i’n symud roedd yn golygu dechrau eto – teulu newydd, ffrindiau newydd, ysgol newydd, popeth. Roedd yn anodd.”
Yn 17 oed, symudodd i’w fflat ei hun ond mae’n dal i ddibynnu ar ei gofalwyr maeth am gymorth:
“Maen nhw wastod yno pan fydd eu hangen arna’ i. Nawr rwy’n helpu’r plant ifancach sy’n dal i fyw gyda nhw, ac mae hynny’n deimlad da iawn.”
Profodd Ieuan sawl lleoliad hefyd ac mae’n cofio’r her o addasu i amgylcheddau newydd:
“Doeddwn i ddim eisiau gadael fy ffrindiau – roedden nhw’n golygu popeth i fi. Weithiau doeddwn i ddim yn teimlo’n rhan o’r teulu a byddwn i’n aros yn fy ystafell oni bai fy mod i allan gyda ffrindiau.”
Cafodd brofiad gwell pan symudodd i fyw gyda Sandra, gofalwr maeth yr oedd yn ei ‘nabod yn barod:
“Roeddwn i wedi aros gyda hi ar benwythnosau, felly doedd dim cyfnod lletchwith. Roedd hi’n fy ‘nabod i’n barod, a gwnaeth hynny wahaniaeth mawr.”
Anogodd Sandra ef i deimlo ei fod wedi’i gynnwys a chefnogodd ei uchelgeisiau:
“Mae hi’n fy ngwthio i wneud yn dda yn y coleg a’r gwaith. Adeg y Nadolig, mae’r tŷ yn llawn o aelodau estynedig o’r teulu ac rwy’n rhan o’r cyfan – mae’n teimlo fel fy mod i’n perthyn.”
Wrth iddo baratoi i ddod yn annibynnol, mae Ieuan yn gwybod y bydd y gefnogaeth yn parhau:
“Mae Sandra yn fy helpu i baratoi i symud allan ac rwy’n gwybod y bydd hi wastod yno i fi.”
Fe fu Chelsea a Ieuan yn meddwl am y pethau bach a’u helpodd nhw i deimlo’n rhan o’r teulu.
Meddai Chelsea:
“Dydy gofalwyr maeth ddim yn gallu paratoi ar gyfer popeth ond mae pethau bach fel basged groeso yn dangos eu bod nhw’n meddwl amdanoch chi. I blant iau, gall rhywbeth fel tedi newydd olygu llawer.”
Ychwanegodd Ieuan:
“Roedd cael lluniau ohonof i gyda gweddill y teulu yn gwneud i fi deimlo’n rhan o’r teulu. Roedd cael fy mhethau ymolchi fy hun hefyd yn helpu—doeddwn i ddim yn teimlo’n lletchwith yn defnyddio pethau pobl eraill.”
Fe wnaethon nhw hefyd rannu cyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau:
Ieuan:
“Mae angen lle a phreifatrwydd ar bobl ifanc yn eu harddegau ond peidiwch â gadael iddyn nhw ynysu’n llwyr. Ceisiwch eu cynnwys a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’r teulu. Peidiwch â’u beirniadu ar sail straeon – mae pawb yn wahanol.”
Chelsea:
“Gall pobl fod ofn pobl ifanc yn eu harddegau, ond ddylen nhw ddim ofni. Rydyn ni eisiau cael ein caru ac eisiau gofal, dyna i gyd. Peidiwch â gorfeddwl – mae’n golygu rhoi bywyd da i rywun. I rai pobl ifanc yn eu harddegau, gall y cysylltiad hwnnw newid popeth.”
Wrth feddwl am ei siwrnai, ychwanegodd Chelsea:
“Rwy’n ddiolchgar i bob gofalwr maeth a roddodd gartref i fi. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw hebddyn nhw.”
Mae pobl ifanc mewn gofal ar gam tyngedfennol yn eu bywydau. Er bod maethu yn aml yn gysylltiedig â phlant iau, mae angen sefydlogrwydd, arweiniad a chefnogaeth ar bobl ifanc yn eu harddegau hefyd wrth iddyn nhw gyrraedd cerrig milltir pwysig fel arholiadau, gwaith ac annibyniaeth.
Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i ffeindio’u ffordd drwy’r blynyddoedd hyn ac adeiladu dyfodol cadarnhaol.
Os allech chi helpu unigolyn ifanc yn ei arddegau i deimlo’n gartrefol, cefnogi ei siwrnai a’i arwain tuag at annibyniaeth, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am faethu.
Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen – 01495 766669 – [email protected]