stori

Chris a Jess: Rhoi Ail Gyfle i bobl ifanc yn eu harddegau

Mae Chris a Jess wedi cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth gyda’i gilydd ers mis Ionawr 2025. Er bod Chris bob amser wedi gobeithio gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, roedd Jess yn teimlo’n fwy hyderus i gefnogi plant iau, am mai dyma yn ei barn hi, yw ei maes cryfaf o ran sgiliau a phrofiad.

Cyn cael eu cymeradwyo fel cwpl, roedd Chris yn ofalwr maeth profiadol yn ei hawl ei hun. Bu’n cefnogi person ifanc dros flynyddoedd lawer ac wrth iddo ddod yn oedolyn, yn ogystal â darparu gofal seibiant i sawl person yn eu harddegau. Trwy’r profiadau hyn, darganfu Chris ei fod yn uniaethu’n dda â phobl ifanc yn eu harddegau a bod eu helpu i lywio heriau yn werthfawr ac yn rhoi boddhad mawr.

Ers cael eu cymeradwyo gyda’i gilydd, mae Chris a Jess wedi croesawu sawl person yn eu harddegau i’w cartref ar leoliadau maeth a seibiannau byr. Maent yn cydnabod bod pob person ifanc yn haeddu cyfle i ffynnu, waeth beth yw ei oedran neu ei amgylchiadau.

Mae Jess yn cyfaddef bod gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau yn teimlo’n dipyn o her i ddechrau. Serch hynny,  mae cael profiad Chris, ynghyd â chefnogaeth ragorol Jenny, eu Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, wedi rhoi’r hyder iddi gofleidio’r rôl hynod werth chweil.

“Gyda Chris wrth fy ochr a’r gefnogaeth rydyn ni’n ei gael gan Jenny, rydyn ni’n gwybod nad ydym byth ar ein pennau ein hunain. Mae yna bob amser rhywun yno i gynnig arweiniad, cyngor a sicrwydd.”

Wrth fyfyrio ar eu profiadau, mae Chris a Jess yn credu bod llwyddo i faethu pobl ifanc yn eu harddegau wedi’i adeiladu ar barch, cysondeb a pherthnasoedd cryf.

“Mae’n bwysig dangos parch i bobl ifanc yn eu harddegau a, thrwy wneud hynny, byddant yn aml yn dangos parch yn ôl. Mae ffiniau’n hanfodol, ond mae hefyd yn bwysig rhoi mwy o ryddid i bobl ifanc wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae tegwch a chysondeb yn helpu i gynnal perthnasoedd cadarnhaol, hyd yn oed pan fydd pethau’n heriol.”

Maent hefyd yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau bywyd y bydd eu hangen arnynt pan fyddant yn oedolion.

“Weithiau mae angen ychydig o ysgogiad ar bobl ifanc o ran gofalu am eu hunain neu gadw eu hystafelloedd gwely yn daclus. Mae’n bwysig helpu i’w paratoi ar gyfer annibyniaeth fel y gallant ofalu amdanynt eu hunain a’u cartrefi eu hunain yn y dyfodol.”

I Chris a Jess, mae maethu yn golygu cydbwyso cefnogaeth ag anogaeth, a helpu pobl ifanc i ddatblygu annibyniaeth wrth sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan o fywyd teuluol.

“Mae angen sicrwydd ac agwedd bositif ar bobl ifanc yn eu harddegau. Mae angen iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau teuluol a gwybod eu bod yn perthyn. Mae gweld hyder person ifanc yn cynyddu a’u gweld yn dechrau ymddiried ynoch, yn hynod werthfawr.”

Maent hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw gweithio mewn ffordd gadarnhaol gyda theuluoedd biolegol, lle bynnag y bo modd.

“Mae meithrin perthynas dda â rhieni yn helpu i ddatblygu ymddiriedaeth a pharch. Mae’n hanfodol sicrhau bod pawb dan sylw yn cyfathrebu’n agored.”

Mae paratoi hefyd yn allweddol ar gyfer llwyddiant. Cyn i berson ifanc symud i mewn, mae Chris a Jess yn hoffi dysgu cymaint â phosibl amdanynt, yn cynnwys eu trefn ddyddiol, eu diddordebau a’u dewisiadau.

“Wrth ddeall yr hyn y mae plentyn yn ei arddegau yn ei fwynhau a sut beth yw ei drefn ddyddiol, gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran ei helpu i setlo yn eich cartref.”

I Chris a Jess, mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau wedi bod yn hynod o werth chweil, o weld pobl ifanc yn cyflawni cerrig milltir i weld y wên sy’n dod wrth iddynt deimlo’n ddiogel, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall.

Mae eu neges yn un syml:

“Mae pob plentyn yn haeddu ail gyfle, waeth beth yw eu hoedran.”

Os ydych chi’n gallu cynnig cartref neu seibiannau byr i rywun yn ei arddegau, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy – https://torfaen.maethucymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch