Cyfweliad gyda Nina Kemp-Jones, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol, Maethu Cymru Gwent
Mae creu cymuned faethu amrywiol a chynhwysol yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion plant mewn gofal. Yn Nhorfaen, a ledled Cymru, mae yna angen cynyddol am ofalwyr maeth o amrywiaeth eang o gefndiroedd, i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei ddeall, ei gefnogi a’i werthfawrogi.
Mae Nina Kemp-Jones, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol gyda Maethu Cymru Gwent, yn deall yr angen hwn ar lefel broffesiynol a phersonol.
Fel gweithiwr cymdeithasol cymwys gyda dros 20 mlynedd o brofiad – a rhywun a gafodd ei maethu fel babi cyn cael ei mabwysiadu yn ddiweddarach – mae Nina yn dod â phersbectif unigryw i bwysigrwydd amrywiaeth mewn maethu.

“Rydw i wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwys ers dros 20 mlynedd,” meddai. “Rwyf wedi gweithio ym maes gwasanaethau plant erioed, ac rwy’n credu bod hyn wedi cael ei yrru gan fy mhrofiadau bywyd i fy hun. Mae fy mherthynas â fy ngofalwr maeth a’r rhieni a fabwysiadodd fi wedi bod yn ddylanwad mawr ac wedi fy ysbrydoli.”
Mae ei stori yn tynnu sylw at y ffordd y gall maethu siapio bywydau – a pham mae cael gofalwyr maeth o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig gwahanol yn bwysig.
Pam mae Amrywiaeth yn Bwysig wrth Faethu?
Yn ei hanfod, mae maethu yn amrywiol. Mae plant sy’n mynd i mewn i ofal yn aml yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol.
Pan fydd plentyn yn symud i ofal maeth, efallai y bydd wedi profi trawma, colled ac ansicrwydd yn barod. Gall cael eu lleoli mewn cartref sy’n teimlo’n anghyfarwydd ychwanegu at yr her honno.
Dyna pam mae amrywiaeth mewn maethu mor bwysig.
“Mae angen i ni allu paru plant â’r gofalwyr maeth sy’n diwallu eu hanghenion orau,” eglura Nina. “Mae hynny’n cynnwys anghenion diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac ethnigrwydd.”
Efallai y bydd plant mewn gofal hefyd wedi profi digwyddiadau bywyd cymhleth, gan gynnwys profedigaeth, chwalu’r teulu neu, mewn rhai achosion, gorfod symud oherwydd rhyfel neu wrthdaro.
Gall cael gofalwyr maeth sy’n deall neu sy’n gallu uniaethu â chefndir plentyn:
- Helpu plant i gadw’u hunaniaeth ddiwylliannol
- Darparu ymdeimlad cryfach o berthyn
- Meithrin ymddiriedaeth yn gyflymach
- Cefnogi llesiant emosiynol yn ystod cyfnod anodd
Yr Angen am Ofalwyr Maeth Amrywiol yn Nhorfaen
Mae yna angen amlwg i recriwtio mwy o ofalwyr maeth o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn Nhorfaen ac ar draws Gwent.
Mae cymuned faethu fwy amrywiol yn helpu i sicrhau y gellir lleoli plant mewn cartrefi lle mae eu hunaniaeth yn cael ei chydnabod, ei pharchu a’i chefnogi.
Mae hefyd yn cryfhau’r system faethu yn ei chyfanrwydd – gan gyflwyno safbwyntiau, profiadau a chryfderau gwahanol wrth ofalu am blant a phobl ifanc.
Sut mae Maethu Cymru yn cefnogi Maethu Cynhwysol
Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i feithrin cymuned faethu sy’n adlewyrchu amrywiaeth y plant y mae’n eu cefnogi.
Pwysleisia Nina fod yn rhaid i wasanaethau maethu fod yn:
- Gynhwysol a chroesawgar i bobl o bob cefndir
- Hawdd mynd atynt a ffeindio’r ffordd o’u cwmpas i ofalwyr newydd
- Sensitif yn ddiwylliannol, gyda staff sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n deall
“Mae angen i ni ddatblygu mwy o gyd-ddealltwriaeth,” meddai, “a chynyddu cefnogaeth i ofalwyr sy’n darparu maethu trawsddiwylliannol.”
Mae hyn yn cynnwys cynnig arweiniad a hyfforddiant i sicrhau bod pob gofalwr maeth—waeth beth fo’u cefndir—yn teimlo’n hyderus wrth gefnogi plant o ddiwylliannau a phrofiadau gwahanol.
Meithrin Ymddiriedaeth mewn Cymunedau Amrywiol
Un o’r heriau mwyaf yw codi ymwybyddiaeth am faethu mewn cymunedau gwahanol.
Mae Nina yn tynnu sylw at bwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a rhoi sylw i gamargraffiadau.
“Mae angen rhannu gwybodaeth glir sy’n dangos pam y mae angen gofal maeth arnom,” meddai, “ac i roi sylw i unrhyw bryderon sydd gan bobl. Gall hyn helpu i gael gwared ar y rhwystrau i’r rheiny sy’n ystyried maethu.”
Trwy ymgysylltu â chymunedau lleol, rhannu straeon go iawn, a darparu gwybodaeth dryloyw, gall gwasanaethau maethu annog mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol i gymryd y cam cyntaf hwnnw.
Allech chi ddod yn Ofalwr Maeth yn Nhorfaen?
Daw gofalwyr maeth o amrywiaeth eang o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau bywyd – ac mae’r amrywiaeth honno yn gryfder.
Does dim angen i chi fod yn berffaith na gwybod yr atebion i gyd. Yr hyn sy’n bwysig yw eich parodrwydd i gefnogi plentyn a’u helpu i deimlo’n ddiogel, a bod pobl yn eu deall ac yn eu trysori.
Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu yn Nhorfaen, gallai eich cefndir, eich diwylliant a’ch profiadau wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn.
Pam Mae Amrywiaeth mewn Maethu yn Bwysig
Mae stori Nina yn atgof pwerus o’r effaith barhaol y gall maethu ei chael.
Trwy adeiladu cymuned faethu fwy amrywiol, gallwn:
- Ddiwallu anghenion plant mewn gofal yn well
- Cefnogi hunaniaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol
- Creu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol
Mae pob plentyn yn haeddu cartref lle maen nhw’n teimlo eu bod yn perthyn – ac mae amrywiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wireddu hynny.
👉 Mynnwch ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen gyda Maethu Cymru Gwent heddiw.