Y Nadolig yw’r amser i rannu’r pleserau bach syml gyda’r bobl sydd fwyaf pwysig. P’un a ydych chi eisoes yn rhan o deulu maeth, yn ystyried dod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen, neu’n chwilio am ffyrdd o greu atgofion am yr ŵyl, mae’n rhywbeth y gall bawb ei fwynhau.
O ddiwrnodau hudolus ar grwydr, i eiliadau bach clyd yn y cartref, dyma rai syniadau i ysbrydoli eich Nadolig yn Nhorfaen, a’ch helpu i ddychmygu sut y gallai maethu fod yn rhan o’ch bywyd drwy gydol y flwyddyn.
Gwyl y Gaeaf Pont-y-pŵl

Bob gaeaf, mae Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn trawsnewid i fod yn fyd o ryfeddodau, stondinau a gweithdai.
Mae’n lle gwych i grwydro gyda’ch gilydd, sgwrsio am eich hoff draddodiadau Nadoligaidd a gwylio wynebau’r plant yn goleuo.
I ofalwyr maeth, gall teithiau bach syml fel hyn, ar grwydr, helpu i feithrin ymdeimlad o ymddiried, creu profiadau y gellir eu rhannu, a helpu plant i deimlo’n ddiogel a bod ganddynt gysylltiad.
👉 Rhowch glic ar wefan Cyngor Torfaen i gael y manylion diweddaraf am ddigwyddiadau bob blwyddyn.
Teithiau Arbennig i weld Siôn Corn ar y Rheilffordd Dreftadaeth

Dewch, da chi, ar Drên Stêm Siôn Corn i gael blas ar ychydig o hud Nadoligaidd traddodiadol yn Nhorfaen.
O gael cyfle i gwrdd â Siôn Corn, i rannu mins pei mewn cerbyd clyd, mae’n ddiwrnod sy’n teimlo’n arbennig iawn – yn enwedig i blant sy’n dathlu’r Nadolig mewn amgylchedd newydd.
I’r rheini sydd yn maethu, gall yr eiliadau bach hyn helpu i greu atgofion hyfryd sy’n parhau am oes.
👉 Cadwch lygad am y diweddaraf gan Reilffordd Treftadaeth Blaenafon er mwyn archebu’n gynnar.
Marchnadoedd a Siopa Nadolig yn Nhorfaen

Mae marchnadoedd Nadolig yn ymddangos Ledled Torfaen drwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr. Maent yn cynnig popeth, o anrhegion wedi’u gwneud â llaw i ddanteithion tymhorol a chrefftau lleol.
I deuluoedd maeth, gall y marchnadoedd hyn fod yn ffordd hyfryd i:
- ddewis anrhegion bach gyda’ch gilydd
- annog ychydig o feddwl wrth roi anrhegion
- treulio amser hamddenol fel teulu
Wrth rannu’r profiadau hyn, gall helpu’r plant i deimlo eu bod yn rhan o bethau, yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys – yn enwedig yn ystod tymor yr ŵyl.
👉 Edrychwch i weld y diweddaraf am ddyddiadau a lleoliadau’r marchnadoedd.
Goleuo’r Goleuadau Nadolig

Mae achlysur goleuo goleuadau Nadolig ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân a Blaenafon yn dangos bod dechrau tymor y Nadolig ar ein stepen drws.
Gyda cherddoriaeth, bwyd a dathliadau cymunedol, mae’r digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd ac yn creu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn.
I blant mewn gofal maeth, mae bod yn rhan o’r traddodiadau lleol yn gallu helpu iddynt deimlo’n fwy sefydlog ac mae’n ffordd gysurus o deimlo’n rhan o’r gymuned.
Pantomeim Nadolig yn Theatr y Congress Cwmbrân

Nid yw’r un Nadolig yn Nhorfaen yn gyflawn heb daith i’r pantomeim.
Mae Theatr y Congress yng Nghwmbrân yn cynnal perfformiadau lliwgar, sy’n gwneud i bawb deimlo’n dda, a rhai y mae plant (ac oedolion) yn eu cofio ymhell ar ôl i’r llen ddisgyn.
I ofalwyr maeth, gall rhannu profiadau fel y theatr fod yn gyfnod pwerus i greu perthynas glos, llawn chwerthin, llawenydd ac atgofion am oes.
Nadolig ym Mhwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Pwll Mawr yn aml yn cynnal sesiynau crefft a llwybrau Nadoligaidd sy’n cyfuno dysgu â difyrrwch yr ŵyl.
Mae hefyd yn gyfle gwych i archwilio treftadaeth Cymru ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, i ychwanegu ystyr a chwilfrydedd i’ch diwrnod ar grwydr.
Gweithgareddau Nadoligaidd Syml yn y Cartref

Nid yw bob eiliad Nadoligaidd yn galw am ddigwyddiad mawr. Weithiau, mae’r atgofion sy’n golygu fwy, yn digwydd gartref.
Fe allech chi:
- Pobi bisgedi neu mins peis gyda’ch gilydd
- Creu cadwyni papur ac addurniadau
- Eistedd dan flancedi i wylio ffilmiau Nadolig ac yfed siocled poeth
- Mynd am dro a thrafod cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod
I blant mewn gofal maeth, yn enwedig y rhai sy’n treulio’r Nadolig i ffwrdd o’u teulu geni, gall yr eiliadau hyn rhoi cysur, sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn.
Sut mae Gofalwyr Maeth yn gwneud y Nadolig yn arbennig
Gall maethu yn ystod y Nadolig fod yn hynod werth chweil. Mae’n amser pan all eiliadau bach, meddylgar gael effaith fawr.
Trwy greu amgylchedd cynnes a chefnogol, mae gofalwyr maeth yn helpu plant i deimlo’n ddiogel, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys – hyd yn oed yn ystod cyfnodau o newid.
Os ydych chi’n ystyried maethu yn Nhorfaen, yn aml, mae’r tymor hwn yn gallu bod yn adeg y mae pobl yn dechrau myfyrio ar y gwahaniaeth y gallent ei wneud.
Ystyried dod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen?
Mae’r Nadolig yn aml yn gyfnod lle rydyn ni’n meddwl am gysylltiad, teulu a rhoi rhywbeth yn ôl.
Os ydych chi wedi meddwl am ddod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen, gallai nawr fod yn amser perffaith i gymryd y cam cyntaf.
Mae Maeth Cymru Torfaen yn cynnig hyfforddiant llawn, cefnogaeth barhaus ac arweiniad trwy gydol eich taith.
👉 Dysgwch fwy am faethu yn Nhorfaen neu gwnewch ymholiad heddiw.
Gallai hyd yn oed sgwrs syml ddechrau rhywbeth sy’n newid bywyd – i chi ac i blentyn.
Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau’r Nadolig yn Nhorfaen
Gall manylion y digwyddiad amrywio bob blwyddyn, felly cofiwch gadw llygad:
- Gwefan Cyngor Torfaen
- Ymweld â Blaenafon
- Tudalennau cyfryngau cymdeithasol am atyniadau lleol
Ni waeth sut rydych chi’n dathlu, dymunwn dymor llawn cynhesrwydd, chwerthin ac atgofion newydd i chi.
Dathlu’r Nadolig yn Nhorfaen
P’un a ydych chi’n bwriadu galw heibio marchnad Nadolig, cwrdd â Siôn Corn, mwynhau taith Nadoligaidd ar y trên, neu dreulio amser gartref, mae yna ffyrdd di-ri o greu eiliadau hudolus.
Ni waeth sut rydych chi’n dathlu, dymunwn dymor llawn cynhesrwydd, chwerthin ac atgofion newydd i chi.
Nadolig Llawen!